Gwili Lewis
Gwili Lewis
DROS Y CLAWDD ARWYDDOCAD Y RHIFOL 3
gan Gwili Lewis
Yn ddiweddar dw i wedi meddwl dipyn am arwyddocâd y nymbar 3, y pethau sy'n digwydd tair gwaith..ac ati. Er engraifft, yn y Testament Newydd, croeshoeliwyd tri ac yna bu tair awr o dywyllwch. Ar waelod y Groes, mae geiriau mewn tair iaith.
Yn yr Hen Destament darllenir am Samuel yn cael ei alw tair gwaith cyn iddo sylweddoli mai Duw oedd, ac nid Eli oedd yn siarad.
Beth am y Drindod, a'r hyn mae Paul yn sôn am danynt - ffydd, gobaith a chariad?
Pan ganwyd Crist, aeth tri o ddoethion i Fethlehem.
Mae dyn yn driphlyg sef corff, meddwl ac enaid. Dw i'n sicr bo chi'n cofio'r rhaglen ar y radio sbel fach yn ol..Animal, Vegetable, Mineral.. Anifal, Llysieuyn, Mwyn. Natur yn driphlyg.
Ym myd lliwiau, amhosibl rhannu coch, melyn a glas. Yn Saesneg cardinal colours ydynt.
Pan yn cyfeirio at amser, sonir am ddoe, heddiw ac yfory; neu y gorffennol, presennol a'r dyfodol.
A beth am y storiau i'r plant megis y tri arth, y tri o lygod bach dall, a'r tri mochyn bach yn mynd i'r farchnad!
Mae na ddywediadau sy mewn tair rhan, yn Saesneg megis lock, stock and barrel ac hook, line and sinker. Hefyd mewn addysg Saesnig, sonir am y 3 Rs.
"Mae na dri siawns i bob Cymro".
Ar y Sul, mae'n arferiad i'r bregeth gael tri phen, ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol mae'r Archdderwydd yn bloeddio tair gwaith y cwestiwn "A oes heddwch"?
Mae hyn yn f'atgoffa am y dref ym Morganwg neu Sir Fynwy, dw i ddim yn siwr ble mae e...
Tairgwaith!
A beth am Lantrisant. A mae mwy nag un Lantrisant.
Ie wir! Mae arwyddocâd 3 yn ryfeddol.